Rhyfedd rhyfedd gan angylion.

1,2,3,4,5,6,7;  1,3,4;  1,5,(2).
Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
  Rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd,
Gweld Rhoddwr bod,
    Cynhaliwr helaeth
  A Rheolwr pob peth sydd,
Yn y preseb mewn cadachau
  A heb le i roi ei ben i lawr,
Ac eto disglair lu'r gogoniant
  Yn ei addoli'n Arglwydd mawr.

Pan fo Sinai i gyd yn mygu
  A swn yr utgorn uwcha'
    ei radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn
  Yng Nghrist y Gair
    heb gael fy lladd;
Mae ynddo'n trigo bob cyflawnder,
  Llond gwagle colledigaeth dyn;
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
  Gwnaeth gymod
      trwy ei offrymu ei hun.

Efe yw'r Iawn fu
    rhwng y lladron,
  Efe ddioddefodd angau loes,
Efe a nerthodd
    freichiau ei ddienyddwyr
  I'w hoelio yno ar y groes;
Wrth dalu dyled pentewynion,
  Ac anrhydeddu deddf ei Dad,
Cyfiawnder, mae'n disgleirio'n danbaid
  Wrth faddau yn nhrefn
      y cymod rhad.

O! f'enaid, gwêl y fan gorweddodd
  Pen brenhinoedd, Awdwr hedd,
Y greadigaeth ynddo'n symud,
  Yntau'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
  Rhyfeddod fwya'
      angylion nef;
Gweld Duw mewn cnawd
    a'i gydaddoli
  Mae'r côr, dan weiddi "Iddo Ef!"

Diolch byth, a
    chanmil diolch,
  Diolch tra bo ynwy' i chwyth,
Am fod gwrthrych i'w addoli
  A thestun cân i bara byth;
Yn fy natur wedi ei demtio
  Fel y gwaela' o ddynol-ryw,
Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
  Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.

Yn lle cario corff o lygredd,
  Cyd-dreiddio â'r
      côr yn danllyd fry
I ddiderfyn ryfeddodau
  Iechydwriaeth Calfari;
Byw i weld yr Anweledig,
  Fu farw ac sy'n awr yn fyw;
Tragwyddol anwahanol undeb
  A chymundeb â fy Nuw.

Yno caf ddyrchafu'r Enw
  A osododd Duw yn Iawn,
Heb ddychymyg, llen, na gorchudd,
  A'm henaid ar ei ddelw'n llawn;
Yng nghymdeithas y dirgelwch,
  Datguddiedig yn ei glwy',
Cusanu'r Mab i dragwyddoldeb
  Heb im gefnu arno mwy.
Yn ei addoli'n Arglwydd mawr :: Yn ei addoli ef yn awr
swn :: sain
utgorn uwcha' ei radd :: udcorn uchaf radd
Yn Nghrist y Gair :: Yngrym 'r aberth
heb gael fy lladd :: heb fy lladd
Ar yr adwy :: Yn yr adwy
trwy ei offrymu ei hun :: trwy offrymu ei hun
ddyn bach, yn wan, yn ddinerth :: ddyn wedi amgylchu â gwendid
Yn anfeidrol wir a bywiol :: Ac yn anfeidrol bywiol

- - - - -
1,2;  1,3.
Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
  Syndod mawr yng ngolwg ffydd!
Rhoddwr bod,
    Cynhaliwr helaeth,
  A Rheolwr pob peth sydd,
Yn y preseb mewn cadachau!
  Ac heb le i 'roi 'i ben i lawr,
Eto dysglaer lu'r gogoniant
  A'i haddolant Ef yn awr.

Dyma'r Brawd a anwyd ini
  Erbyn c'ledi a phob clwy'; 
Ffyddlawn ydyw, llawn tosturi,
  Haeddai gael ei foli'n fwy;
Rhyddhäwr caethion,
    Meddyg cleifion
  Ffordd i Seion union yw,
Ffynnon loew, Bywyd meirw,
  Arch i gadw dyn yn fyw.

Diolch byth, a
    chan-mil diolch,
  Diolch tra bo ynof chwyth,
Am fod Gwrthddrych i'w addoli,
  Testun cân i bara byth;
Yn fy natur wedi ei demtio
  Fel y gwaela' o ddynolryw,
Yn ddyn wedi'i amgylchu â gwendid,
  Ac yn anfeidrol fywiol Dduw.
Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [8787D]:
Dismissal (W L Viner 1790-1867)
Dre-hir (David Evans [Edward Arthur]1874-1948)
Eryl (J Morgan Lloyd 1880-?)
Esther (John Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)
Gaerwen (Lowell Mason 1792-1872)
Penderyn (alaw Gymreig)

gwelir:
Bererin llesg gan rym y stormydd
Bydd melys gofio y cyfamod
Draw ar gopa bryn Golgotha
Dyma Frawd a anwyd inni
Nid eill moroedd mawrion llydain
O ddedwydd awr tragwyddol orffwys
O f'enaid gwêl y fan gorweddodd
Os rhaid wynebu'r afon donog

 
Wondrous, wondrous for angels,
  A great wonder in the sight of faith,
To see the Giver of Existence,
    the generous Upholder
  And Regulator of everything that is,
In the manger in cloths
  And without a place to lay down his head,
And yet the shining host of glory
  Are worshipping him as a great Lord.

Whenever all Sinai is smoking
  And the loudest trumpet
    is sounding his degree,
I may go to feast across the boundary
  In Christ the Word
    without undergoing my death;
In him abides every fullness,
  Filling the emptiness of man's loss;
In the breach between the two parties
  He made reconciliation
    through his sacrificing of himself.

He is the Satisfaction
    who was between the thieves,
  He suffered the throes of death,
He who strengthened
    the arms of his executioners
  To nail him there on the cross;
While paying a debt of firebrands,
  And honouring the law of his Father,
Justice, it is shining fervently
  While forgiving is arranging
    the free reconciliation.

O my soul, see the place where lay
  The Chief of kings, the Author of peace,
The creation moves in him,
  The one dead in the grave;
The song and life of the lost,
  The greatest wonder
      of the angels of heaven;
Seeing God in flesh and
    worshipping him together
  Is the choir, while shouting "Unto HIm!"

Thanks forever, and
    a hundred thousand thanks,
  Thanks while there is in me breath,
For being an object to be worshipped
  And a theme of a song to endure forever;
In my tempted nature
  Like the worst of humankind,
In little man, feeble, weak,
  Immeasurably true and lively God.

Instead of carrying a body of corruption,
  Entering together with the
      fiery choir above
To the boundless wonders
  Of the salvation of Calvary;
To live to see the Unseen,
  Who died and who is now living;
Eternally undivided unity
  and communion with my God.

There I may exalt the Name
  Which God has set as a Satisfaction,
Without pretence, veil or cover,
  And my soul fully in his image;
In the fellowship of the mystery,
  Revealed in his wound,
Kissing the Son to eternity
  Without turning my back on him any more.
worshipping him as a great Lord :: worshipping him now
::
::
In Christ the Word :: In the strength of the sacrifice
::
::
::
little man, feeble, weak, :: a man surrounded and weakened
An immeasurable true and lively :: And an immeasurable lively

- - - - -
 
Wondrous, wondrous to angels,
  A great surprise in the sight of faith!
The giver of existence,
    the bountiful Upholder,
  And Regulator of everything that is,
In the manger in nappies!
  And with no place to lay down his head,
Still a shining host from the glory
  Worship him now.

Here is the Brother who was born to us
  Against hardship and every ailment;
Faithful he is, full of mercy,
  He would deserve to get praised evermore;
A Liberator of captives,
    a Physician of the sick
  A direct way to Zion he is,
A clear fount, Life of the dead,
  An ark to keep man alive.

Thanks forever, and
    a hundred thousand thanks,
  Thanks while there be breath in me,
That there is an Object to worship,
  The theme of a song to persist forever;
In my nature having been tempted
  Like the worst of humankind,
As man having been surrounded by weakness,
  And as infinite, living God.
tr. 2008,18 Richard B Gillion
 
Wondrous sight for men and angels!
tr. H A Hodges 1905-76

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~